Bydd sioe arbennig yn teithio o amgylch cartrefi i’r henoed yng Ngwynedd, Conwy a Môn, i helpu pobol sy’n dioddef o ddementia.
Mae Dyddiau Braf yn sioe ryngweithiol, sydd wedi’i datblygu gan gwmni dawns cymunedol Dawns i Bawb.
Mae’r cwmni wedi bod yn cynnal gweithgareddau a gweithdai dawns gydag amrywiaeth o bobol o bob oedran ers wyth mlynedd, ond dyma’r tro cyntaf y bydd yn perfformio sioe o’r fath.
Y dawnswyr Catrin Wilson a Keren Meadows fydd yn ei pherfformio a fydd yn rhoi cyfle i wylwyr arogli, cyffwrdd gweld a chlywed pethau newydd.
“Mae e’n berfformiad sy’n cynnwys elfen o weithdy hefyd, ac mae’n rhyngweithiol iawn, bydd cyfle i wneud lot o bethau, dim jyst eistedd i lawr,” meddai Mari Morgan, y rheolwr prosiect, wrth golwg360.
“Mae’n sioe sy’n apelio at y synhwyrau. Mae pethau i wynto, mae pethau i gyffwrdd a gweld a chlywed.”
Sbarduno’r cof
Mae elfen o’r sioe a fydd gobeithio yn ceisio helpu’r gwylwyr i gofio rhai o’u hatgofion ac mai cerddoriaeth fydd yn cael ei defnyddio i wneud hynny.
“Peth pwysig hefyd yw bod hi’n sioe sy’n byw yn y foment, felly mae’n rhoi mwynhad iddyn nhw yn y foment,” ychwanegodd Mari Morgan.
Thema natur sydd i’r sioe, fydd yn “annog sgiliau cymdeithasol ac iechyd a lles,” gyda chaneuon dwyieithog yn gefndir iddi.
Dros y misoedd nesaf fydd y sioe yn teithio i 10 cartref ledled Gwynedd, Conwy a Môn, gyda’r gobaith i deithio i fwy o gartrefi yn y dyfodol.