Mae arbenigwr ar yr iaith Gymraeg yn dweud nad yw’r llythrennau anferth sydd wedi ymddangos ar un o fynyddoedd Eryri’r wythnos hon, yn sillafu’r gair ‘EPIC’, yn gwneud synnwyr o gwbl.

Ymgyrch marchnata yw’r ‘darn o gelf’ adlewyrchol uwchben Nant Gwynant, i “ddenu sylw pawb at rai o lefydd mwyaf trawiadol Cymru”, meddai Croeso Cymru.

Ond mae’r llythrennau wedi gwylltio rhai am nad yw’r arwydd yn Gymraeg, ac mae Bruce Griffiths, un o’r ddau a ysgrifennodd Geiriadur yr Academi, yn dweud nad yw’n deall yr arwydd.

Epig v Epic

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod ‘epic’ yn air sy’n cael ei gydnabod yn Gymraeg yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a bod y gair yn cael ei ddefnyddio mewn iaith lafar i “ddisgrifio golygfa, gorchest neu brofiad anhygoel.”

Ond mae Bruce Griffiths wedi dweud wrth golwg360, nad yw’r gair ag ‘c’ yn perthyn i’r Gymraeg ac mae ‘epig’, fyddai’r sillafiad cywir.

“Dw i ddim yn dallt be’ maen nhw’n trio ei wneud, fedrwch chi ddim disgrifio golygfa fel ‘epig’, gweithred neu hanes rhywbeth sydd yn epig. Dw i ddim yn gwybod beth maen nhw’n trio ei ddweud,” meddai.

“Arwrol ydy epig yn Gymraeg, hanes, ymdrech arwrol ac yn y blaen. Dydy o ddim yn gwneud yr un fath o synnwyr i mi.”

Ac wrth gwyno am yr arwydd uniaith Saesneg, dywedodd yr awdur, Manon Steffan Ross ar Twitter, “Mae’r arwydd “Epic” hyll ‘na uwchben Nant Gwynant yn fy ngwylltio i ar sawl lefel #FindYourEpic #MyEpicIsWelsh.”

Ymgyrch £4 miliwn

Hon yw ‘Blwyddyn Antur Cymru’ yn ôl Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi gwario £4m ar yr ymgyrch #FindYourEpic neu #GwladGwlad.

Y nod yw ceisio creu delwedd o Gymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth antur, ac mae’r ymgyrch yn ceisio annog pobol i dynnu hunluniau ger yr arwydd gan eu rhannu ar-lein.

Mae’r arwydd “EPIC” yn Eryri’r wythnos hon ond bydd yn teithio o gwmpas Cymru dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’r rhan hon o Gymru yn gartref i rai o’n golygfeydd mwyaf trawiadol – mae dyffrynnoedd helaeth a llynnoedd disglair yn gwneud yr ardal yn ddiguro ar gyfer cerdded a heicio,” meddai Croeso Cymru.

“Ac os ydych chi’n hoff o wyliau gydag ychydig mwy o fynd, yna mae digonedd yma i’ch rhoi ar ben eich digon.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cyfeirio at ddefnydd hanesyddol ac arwrol o’r geiriau ‘epic’. Mewn sawl rhan o Gymru mae’r gair ‘epic’ yn cael ei ddefnyddio mewn iaith lafar yn ogystal â mewn diwylliannau eraill i ddisgrifio golygfa, gorchest neu brofiad anhygoel.”