Mae Heddlu Gwent wedi apelio eto am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i Gary Jones, 53 oed, sydd ar goll o ardal Casnewydd.

Fe ddaw’r cyhoeddiad heddiw, wedi i rai pobol gysylltu i ddweud eu bod nhw wedi gweld Gary ar ddiwrnod ei ddiflaniad.

Does neb wedi ei weld ers 9.30yb ddydd Llun, Gorffennaf 25, a hynny pan oedd yn cerdded ar hyd stryd Southern Distributor Road, dim yn bell o Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd.

Bryd hynny, roedd yn gwisgo fest ddu, ac roedd yn cario siaced ledr, ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai’n mynd i gyfeiriad y Coldra.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i ffonio’r rhif 101.