Bu farw’r awdures a’r ymgyrchwraig gymdeithasol, Mahasweta Devi o India. Roedd hi’n 90 oed.
Fe dreuliodd ei gyrfa yn ysgrifennu yn yr iaith Bengal, ac yn tynnu sylw at bobol dlawd a phobol oedd yn byw yng nghoedwigoedd ei gwlad enedigol, a’r modd yr oedden nhw’n cael eu hamdiddfadu a’u camdrin gan ddiwydiant a chwmniau mawr.
Fe sefydlodd nifer o grwpiau er mwyn ymladd tros hawliau pobol frodorol.
Yn 1997, fe gafodd ei hanrhydeddu gyda Gwobr Ramon Magsaysay, anrhydedd gan y Ffilipinas sy’n cael ei hystyried gyfuwch a’r Wobr Nobel yn Asia.