Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwella, gyda phob bwrdd iechyd yn cyrraedd neu’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dyma’r perfformiad gorau ar gyfer ambiwlansys ers i beilot i dreialu model ymateb clinigol gael ei gyflwyno fis Hydref diwethaf.
Cafodd y penderfyniad i newid y drefn wrth gofnodi perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ei feirniadu ar y pryd gyda’r gwrthbleidiau yn dweud ei fod yn arwydd o fethiant y Llywodraeth i gyrraedd targedau.
Tra’n croesawu’r ystadegau heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething bod “mwy o waith i’w wneud o hyd” ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad ar y camau nesaf yn yr Hydref pan fydd y cynllun peilot yn dod i ben.
Ym mis Mehefin, roedd y Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymateb i gyfanswm o 77.1% o ymatebion brys i salwch neu anaf lle mae bywyd yn y fantol, sef galwadau coch, o fewn wyth munud.
Roedd hyn yn uwch na’r targed o 65%, ac i fyny o 75.5% ym mis Mai 2016. Yr ymateb safonol i’r math hwn o gleifion oedd 5 munud ac 1 eiliad.
‘Pwysau cynyddol’
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: “Mae’n amlwg o’r ystadegau newydd hyn y gall pobl fod yn gadarnhaol iawn ynghylch beth sy’n digwydd yn ein gwasanaeth ambiwlans.
“Mae hyn oll yn cael ei gyflawni yn erbyn cefndir o alw a phwysau cynyddol ar ein gwasanaeth ambiwlans. Ym mis Mehefin yn unig cafwyd dros 37,000 o alwadau brys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – sef, o roi hynny yn ei gyd-destun – 1,235 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd.
“Mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn bodloni ac yn rhagori ar y targedau a bennwyd ar eu cyfer bob mis ers dechrau’r peilot ar gyfer ein model clinigol newydd, ac rydym ymhlith y gwledydd mwyaf tryloyw ar gyfer gwybodaeth ambiwlansys yn y byd.”
‘Mwy o waith i’w wneud’
Wrth ganmol y staff am eu hymdrechion dywedodd bod y peilot o Fodel Ymateb Clinigol newydd yn dod i ben cyn hir.
“Mae’r cynllun wedi para am flwyddyn ac mae’n canolbwyntio adnoddau mewn ffordd sydd wedi’i dylunio i wella canlyniadau i gleifion.
“Bu’r canlyniadau yn galonogol hyd yn hyn, ond mae mwy o waith i’w wneud bob amser. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar y camau nesaf yn yr Hydref.
“Rydym yn bodloni’r targedau yr ydym wedi’u gosod ar gyfer ein gwasanaeth ambiwlans. Nid ydynt yn llwyddo i wneud hynny dros y ffin. Rwyf am i’r gwelliant hwn mewn perfformiad barhau. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo. Hir y parhaed felly.”