Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd
Pum mis ar ôl ei agor, mae’n debyg bod canolfan Gymraeg newydd Caerdydd wedi mynd i drafferthion.

Fe fydd caffi bar Yr Hen Lyfrgell, Amser, yn cau ei ddrysau o ddydd Mercher, 3 Awst ymlaen, ac mae bwrdd rheoli’r ganolfan yn dweud ei fod yn ceisio penodi “partner neu bartneriaid” newydd er mwyn ail-agor.

Mae’r ganolfan yn dweud y bydd ei gwasanaethau a’i chyfleusterau eraill, sy’n cynnwys siop, crèche ac ystafelloedd i’w llogi, yn parhau ar agor.

Bydd digwyddiadau amrywiol hefyd yn parhau i gael eu cynnal yn y Ganolfan Gymraeg, dan ofal Menter Caerdydd.

“Rydym yn gobeithio y gallwn ail-agor drysau’r Caffi Bar yn fuan wedi’r haf er mwyn i’r cyhoedd gael mwynhau pob agwedd o’r ganolfan,” meddai datganiad bwrdd rheoli’r Hen Lyfrgell.