Y bom yn Rhiwabon
Bu’n rhaid cau’r rheilffordd rhwng Wrecsam a’r Amwythig am gyfnod heddiw wedi i fom o gyfnod y rhyfel gael ei ddarganfod.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod yr hen fom ‘mortar’ wedi’i ganfod mewn gardd yn un o dai Rhiwabon yn gynharach heddiw.
Galwyd swyddogion o Uned Ddifa Bomiau’r Fyddin o Gaer i ddelio â’r bom, a bu’n rhaid symud nifer o bobl o’u cartrefi yng Nghlos St Michael.
Mae’r swyddogion bellach wedi cadarnhau mai dyfais hyfforddi ydoedd, ac nad oedd perygl iddo ffrwydro.
Bellach, mae Trenau Arriva Cymru hefyd wedi cadarnhau fod y rheilffordd rhwng Wrecsam a’r Amwythig wedi ailagor.