Theresa May (Llun: Y Blaid Geidwadol)
Ar ei hymweliad â Gogledd Iwerddon, mae Prif Weinidog Prydain wedi dechrau ar drafodaethau Brexit ag arweinwyr gwleidyddol y wlad.
Bydd Theresa May yn cwrdd â Phrif Weinidog Stormont, Arlene Foster a’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness yng Nghastell Stormont, Belffast.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe wnaeth 56% o bobol bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r canlyniad Brexit dros y Deyrnas Unedig wedi dechrau dadl wleidyddol newydd yn y wlad.
Gallai hyn arwain at refferendwm newydd ar uno Iwerddon yn un wlad â Gweriniaeth Iwerddon, sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaid.
Mae’r refferendwm ar Ewrop wedi rhannu llywodraeth Gogledd Iwerddon, gydag Arlene Foster o’r Unoliaethwyr Democrataidd yn cefnogi Brexit, a Martin McGuinness o Sinn Fein, am aros yn yr UE.
Mae Theresa May wedi’i gwneud yn glir bod yn rhaid i benderfyniad y DU i adael, weithio i Ogledd Iwerddon hefyd.
Y ffin Wyddelig
Dywedodd y byddai’r trafodaethau yn ystyried y tarfu posib ar hawl pobol i symud yn rhydd drwy Iwerddon a masnachu rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Gogledd.
“Rwyf wedi’i gwneud yn glir y byddwn yn llwyddo wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Theresa May.
“Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid iddo weithio i Ogledd Iwerddon hefyd, yn enwedig o ystyried y ffin â’r Weriniaeth.
“Byddwn yn siarad â phob plaid wleidyddol Gogledd Iwerddon wrth i ni baratoi i drafod.”
“Achos arbennig”
Ar hyn o bryd, mae pobol a nwyddau yn gallu symud yn rhydd rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth o achos y man teithio cyffredin, a gafodd ei sefydlu yn y 1920au.
Fodd bynnag, os yw Gogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae cwestiynau wedi’u codi ynglŷn â beth fyddai hyn yn ei olygu i’r hawl hon.
Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande wedi dweud y bydd y ffin Wyddelig yn achos arbennig o fewn trafodaethau Brexit.