Mae disgwyl i Bwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn gyfarfod heddiw i drafod safleoedd  posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar yr ynys.

Mae galw am greu safleoedd dros dro ynghanol yr ynys, gyda’r safleoedd dan ystyriaeth yn cynnwys llain o dir rhwng yr A55 a’r A5 rhwng Llanfairpwll a Chroesffordd Star, ynghyd â safle cyfagos yn Y Gaerwen.

Mae disgwyl i’r Cyngor hefyd drafod safle arall yng nghyffiniau Caergybi.

Ond mae’r cynllun wedi ennyn ymateb chwyrn, meddai cynghorydd cymuned Llanfairpwll, Meirion Jones wrth Golwg360.

 

‘Dau safle yn yr un Cyngor Cymuned’

Dywedodd Meirion Jones fod y Cyngor “wedi mynd ati ar ormod o frys” gyda’u cynlluniau.

“Mae’n amlwg fod angen inni gael rhyw fath o safleoedd ar yr ynys, ond rydyn ni’n teimlo nad yw’r Cyngor wedi defnyddio’r canllawiau cywir na chwaith cynnal asesiadau,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn pryderu fod y naill safle rhwng yr A55 a’r A5, a’r safle arall yn Y Gaerwen yn agos at ei gilydd.

“Ydy o’n deg rhoi dau safle yn yr un cyngor cymuned, pan mae yna 40 o gynghorau cymuned ar draws yr ynys?,” gofynnodd.

“Y gofyniad cyntaf oedd cael man aros dros dro yng nghanol yr ynys, ond dydy Croesffordd Star ddim yng nghanol yr ynys,” meddai wrth Golwg360.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Gwaith ddod i benderfyniad terfynol heddiw ynglŷn â’r safleoedd.

Ond, yn ôl y Cynghorydd, “dylai’r Pwyllgor Gwaith ddim gwneud penderfyniad am nad oes ganddyn nhw’r wybodaeth lawn, gywir.”