Traffordd yr M4
Mae ymgyrch sy’n cael ei lansio heddiw yn cynnwys cyflwyno cosbau llymach ar gyfer gyrwyr sy’n goryrru ar yr M4.

Caiff ei arwain gan Gan Bwyll, a’i fwriad ydy tynnu sylw at y terfynau cyflymder amrywiol ar hyd yr M4 a gyflwynwyd pum mlynedd yn ôl yn 2011.

Mae’r terfynau cyflymder amrywiol hyn wedi’u lleoli rhwng cyffordd 24 Coldra a chyffordd 28 Parc Tredegar.

Codi ymwybyddiaeth

 

Fe fydd yr ymgyrch hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu’r cyhoedd am y cosbau llymach allai eu hwynebu, gyda gyrwyr sy’n cael eu dal yn goryrru yn gallu derbyn Rhybudd o Fwriad i Erlyn.

“Mae rheoli cyflymder traffig ar y rhan brysur hon o draffordd yr M4 yn hollbwysig,” meddai Chris Hume, Rheolwr Gan Bwyll.

“Mae rheoli’r terfyn cyflymder amrywiol yn broactif yn helpu Gan Bwyll i gyflawni ei nod strategol o wneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau damweiniau ac arbed bywydau.”

Camau gorfodi

 

Esboniodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, fod terfynau cyflymder amrywiol wedi’u cyflwyno ar hyd yr M4 er mwyn “gwella llif y traffig a lleihau nifer y damweiniau.”

Ond, ychwanegodd, “mae rhai gyrwyr yn parhau i anwybyddu’r terfynau sy’n cael eu harddangos ac yn ymddwyn fel nad yw’r cyfyngiadau yn berthnasol iddyn nhw, felly’r gyrwyr hyn rydyn ni’n eu targedu’n bennaf gyda’r ymgyrch ymwybyddiaeth hon a’r camau gorfodi dilynol.”