"Rhaid i Gymru gael llais", medd Carwyn Jones
Wrth i Gyngor Prydain-Iwerddon gyfarfod yng Nghymru heddiw, mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “gael trefn ar bethau” a “sicrhau’r fargen orau posib i Gymru”.

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Prydain-Iwerddon heddiw i drafod effeithiau ‘Brexit’.

Mae arweinwyr wyth o lywodraethau’n ymgasglu yng Nghaerdydd i drafod y drefn a goblygiadau’r trafodaethau i adael.

Mae Carwyn Jones wedi mynnu bod rhaid i Gymru gael llais yn y trafodaethau hynny a bod eisiau sicrwydd y bydd hi’n cael pob ceiniog o’r arian oedd yn arfer dod o du Ewrop.

Er ei fod yn “croesawu’r ffaith” fod Cyngor Prydain-Iwerddon yn cwrdd, dywedodd Steffan Lewis AM, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Allanol bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys neu fe fydd “Cymru’n cael ei gadael ar ôl unwaith eto”.

Rhaid cael ‘trefn ar bethau’

Meddai Steffan Lewis: “Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n cael trefn ar bethau yn nhermau lliniaru effaith gadael yr UE ar gymunedau Cymreig a sicrhau’r fargen orau posib i Gymru.

“Wrth i genhedloedd eraill yr ynysoedd hyn amlinellu cynlluniau clir a safbwyntiau negodi, mae’n gwbl annerbyniol fod Llywodraeth Lafur Cymru’n mynnu chwarae’r gêm “arhoswn i weld.

“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog gael trefn ar bethau a chyhoeddi cynllun lliniaru cenedlaethol i Gymru ynghyd a safbwynt negodi unigryw Cymreig a dylai gyflwyno’r ddau i’r Cynulliad Cenedlaethol am sêl bendith.

“Bydd Cymru’n cael ei gadael ar ôl unwaith eto os bydd yr oedi’n parhau. Ni allwn fforddio rhoi dyfodol ein pobol yn nwylo May a’i hebogiaid ynysig yn Whitehall.”