Mae gwleidyddion prif ffrwd wedi cyfrannu at y twf mewn “hiliaeth barchus”, yn ôl y Farwnes Warsi.
Hi oedd y fenyw Foslemaidd gyntaf i fynychu Cabinet Llywodraeth y DU pan oedd yn gyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol.
Mae hi nawr wedi mynegi pryder bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ac ymgyrch Maer Llundain wedi helpu i greu hinsawdd o godi ofn.
Dywedodd wrth bapur newydd The Guardian bod “ffurf newydd o senoffobia parchus” wedi datblygu mewn cylchoedd gwleidyddol, newyddiaduraeth, a’r byd academaidd.
Mae’r Farwnes Warsi hefyd wedi cyhuddo gwleidyddion o fod yn gyfrifol am y cynnydd sydyn mewn troseddau casineb ar ôl canlyniad y refferendwm, ac mae’n feirniadol o ymgyrch ddadleuol Zac Goldsmith i fod yn Faer Llundain, lle rhybuddiodd dro ar ôl tro bod ei wrthwynebydd Llafur, Sadiq Khan, wedi rhannu llwyfannau ag eithafwyr.
Ychwanegodd fod ganddi gywilydd bellach o ddeunydd homoffobig wnaeth hi ei hun ddefnyddio mewn ymgyrchoedd blaenorol a oedd yn beirniadu polisi’r Llywodraeth Lafur ar y pryd i godi’r gwaharddiad ar addysgu am gyfunrywioldeb mewn ysgolion.