Gareth Hall yn euog o gyfres o droseddau rhyw
Mae dyn o Wynedd oedd wedi cael ei ddedfrydu i 50 mlynedd o garchar yn yr Unol Daleithiau am dreisio merch 10 oed o’r wlad, ynghyd â throseddau rhyw eraill, wedi gollwng ei apêl yn erbyn ei ddedfryd.

Roedd Gareth Vincent Hall, 23, o Dalysarn, wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o sodomiaeth ac un cyhuddiad o feithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein.

Nawr mae wedi gofyn i Lys Apêl yn Oregon i dynnu ei gais yn ôl, wythnosau’n unig ar ôl ei gyflwyno.

Yn ei achos llys yn America, defnyddiodd Hall gyfieithydd, i bledio’n euog yn y Gymraeg, i bob un o’r saith cyhuddiad yn ei erbyn.

Gwahardd o’i waith

Cafodd y cyn-achubwr bywydau, a oedd yn arfer gweithio yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon, ei arestio mewn maes awyr yn Chicago ym mis Mai 2015.

Ym mis Hydref 2014, cafodd ei wahardd o’i waith gan Gyngor Gwynedd, yn dilyn ymchwiliad troseddol arall gan Heddlu Gogledd Cymru.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud yn y gorffennol nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gwynion gan rieni plant a allai fod wedi cael gwersi nofio gan Hall yn y pwll yng Nghaernarfon.

Bydd Hall yn 72 mlwydd oed yn cael ei ryddhau os bydd yn gwasanaethu’r 50 mlynedd llawn yn y carchar.