Alun Cairns - addo 'cyfran deg' ond nid y cyfan (llun o'i wefan)
Mae Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Cymru wedi anghytuno cyn cyfarfod arbennig o Bwyllgor Prydain-Iwerddon yng Nghaerdydd.

Mae Carwyn Jones wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd, Alun Cairns, o fethu ag addo y bydd Cymru’n cadw ei holl arian Ewropeaidd ar ôl i Brexit ddigwydd.

Fe fyddai’r arian bellach yn mynd i Lundain, meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales, a doedd dim sicrwydd y byddai dimai ohono’n dod i Gymru.

‘Cyfran deg’

Ynghynt ar yr un rhaglen roedd Alun Cairns wedi addo y byddai Cymru’n “cael cyfran deg” o’r arian ond gan bwysleisio na fyddai’r hen drefn o angenrheidrwydd yn cael ei chadw.

Roedd yn dadlau mai’r ardaloedd sy’n derbyn fwya’ o arian Ewropeaidd oedd wedi pleidleisio gryfa’ tros adael – gan gynnwys Cymoedd y De – a fod hynny’n awgrymu nad oedd y cymorth yn gweithio.

Ond mae Carwyn Jones wedi galw eto am ddau beth – sicrwydd y bydd busnesau Cymru’n gallu allforio i weldydd yr Undeb heb dollau a sicrwydd tros arian Ewropeaidd.

“Dw i ddim yn meddwl bod pobol Cymru wedi pleidleisio o dynnu cannoedd o filiynau o bunnoedd mas o economi Cymru,” meddai.