Pwll Pemnaen (Traveler100 CCA3.0)
Fe fydd cofeb yn cael ei dadorchuddio heddiw, union 50 mlynedd wedi un o’r trychinebau cychod mwya’ yng Nghymru.

Fe fydd yn cofio damwain y ‘Prince of Wales’, pan suddodd cwch pleser ym Mhwll Penmaen ar afon Mawddach gan foddi 15 o bobol.

Roedd Cyngor Tref Dolgellau wedi penderfynu ym mis Rhagfyr y bydden nhw’n cynnal gwasanaeth arbennig ychydig cyn hanner dydd, union amser y trychineb.

Mae sylw hefyd yn cael ei roi i bobol leol a helpodd achub rai o’r teithwyr –  gan gynnwys perchennog gwesty’r George III a dau o’i weithwyr a Ron Phillips, un o weithwyr Cyngor Gwledig Dolgellau a aeth i mewn i’r afon i achub dau o blant.

Fe benderfynodd ymchwiliad mai perchennog y cwch oedd ar fai wrth i’r cwch daro’r cei ac am nad oedd digon o weithwyr ar y cwch gyda mwy na 40 o deithwyr.