Owen Smith (Llun: Wykehamistwikipedian CCA4.0)
Owen Smith fydd yr unig ymgeisydd i herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ôl i Angela Eagle dynnu ei henw yn ôl neithiwr.

Fe gyhoeddodd Angela Eagle na fyddai’n sefyll fel ymgeisydd ar ôl iddi ddod yn amlwg bod AS Pontypridd, Owen Smith, wedi sicrhau mwy o enwebiadau gan Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

Dywedodd Owen Smith  y byddai’n gweithio “ochr yn ochr” a Angela Eagle yn y gystadleuaeth, sy’n dod i ben ar 24 Medi.

Gyda dim ond ychydig oriau i fynd tan yr amser terfyn ar gyfer cyflwyno enwebiadau – 5yp ddydd Mercher – roedd cyn-ysgrifennydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid wedi sicrhau cefnogaeth 88 o ASau a dau ASE – roedd angen 51 o enwebiadau er mwyn bod yn ymgeisydd.

Yn y cyfamser mae pobl amlwg fel yr awdur JK Rowling yn annog pobl i dalu £25 er mwyn bwrw pleidlais yn y gobaith o ddisodli Jeremy Corbyn.

Ond mae arweinydd y blaid hefyd wedi bod yn gwneud ymdrech funud olaf i annog cefnogwyr i gofrestru i bleidleisio yn yr oriau nesaf.