Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dau berson arall mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 22 oed ym Mhenygroes, Caernarfon.

Cafwyd hyd i gorff Emma Louise Baum, mam i fachgen dwyflwydd oed, mewn eiddo yn Ffordd Llwyndu, Penygroes tua 10.45yb fore dydd Llun, 18 Gorffennaf.

Dywed yr heddlu bod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a bod dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr. Mae’r ddau yn byw yn lleol, meddai’r heddlu.

Mae dau ddyn a gafodd eu harestio ar ddechrau’r ymchwiliad bellach wedi’u rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am dystion ac yn ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un  a allai fod wedi clywed aflonyddwch yn Ffordd Llwyndu rhwng 2yb a 5yb bore dydd Llun.

Cyfeirio’r mater at yr IPCC

Dywed yr heddlu eu bod eisoes wedi cael ymateb cadarnhaol gan y gymuned gyda nifer o adroddiadau wedi’u derbyn o ferch yn sgrechian yng nghyffiniau’r stryd am tua 4yb.

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi cael galwad am aflonyddwch posibl ychydig ar ôl 4yb.  Cafodd swyddogion eu hanfon i’r lleoliad ond ni ddaethon nhw o hyd i unrhyw beth amheus.  Mae’r mater wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies:  “Mae tîm yr ymchwiliad o’r farn y bu farw’r ddynes yn ystod oriau mân y bore ddoe.

“Rydym yn parhau i apelio am dystion, yn arbennig unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn ardal Ffordd Llwyndu yn oriau mân y bore.  Fel rhan o’n hymchwiliad rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â system TCC (teledu cylch cyfyng) preifat i gysylltu â’r ystafell digwyddiad difrifol ar 101 a dyfynnu cyfeirnod U105426.”