Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn ymweld â Chymru heddiw gan roi neges glir bod y Llywodraeth wedi’i hymrwymo i helpu diwydiant dur y wlad.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud y bydd “bob amser yn cefnogi” pobl Cymru a’i bod wedi’i hymrwymo i gadw’r DU yn unedig.
Fe fydd yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yng Nghaerdydd gan ddatgan unwaith eto y bydd yn “cydweithio’n llawn” gyda Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ynglŷn â Brexit.
Cyn ei hymweliad dywedodd Theresa May: “Mae fy Llywodraeth wedi’i hymrwymo i helpu’r diwydiant dur a sicrhau ei ddyfodol hirdymor yng Nghymru.
“Mae’r diwydiant dur yn hanfodol i’r DU ac fe fyddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i edrych ar ôl y gweithwyr a’r gymuned ehangach wrth i ni weithio gyda Tata a Llywodraeth Cymru.
Mae miloedd o weithwyr dur ym Mhort Talbot yn wynebu dyfodol ansicr wrth i drafodaethau barhau i geisio achub safleoedd Tata.
‘Hanfodol ennill parch y Prif Weinidog’
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y dylai Cymru gael iawndal am “bob ceiniog” o gyllid yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael ei golli yn sgil Brexit ac wedi awgrymu y dylai Cymru gael yr hawl i benderfynu ar ei dyfodol ei hun os yw’r Alban yn ennill annibyniaeth.
Dywedodd Leanne Wood: “Mae ymweliad y Prif Weinidog newydd a Chymru yn rhywbeth cadarnhaol. Dylai Prif Weinidog Cymru ei gwneud yn glir fod gan Gymru fuddiannau penodol y dylid eu cynrychioli mewn unrhyw drafodaethau ar adael yr UE.
“Rydym wedi gweld yr Alban yn sicrhau llawer gwell cytundeb na Chymru gan San Steffan diolch i gryfder Llywodraeth yr Alban. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n ennill parch y Prif Weinidog newydd yn yr un modd – rhywbeth y mae wedi methu ei wneud hyd yma gan ein gadael gyda setliad gwan.”