Llong danfor Trident (Llun: bodgebrooks CCA 2.0)
Yn y bleidlais ar adnewyddu system arfau niwclear y Deyrnas Unedig heno, mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud wrth Aelodau Seneddol i roi diogelwch teuluoedd cyffredin yn gynta’.

Ar ôl bod yng Nghymru heddiw i gwrdd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, fe fydd Theresa May yn agor y ddadl ar Trident, a fyddai’n golygu gwario tua £40 biliwn i’w adnewyddu, os caiff y cynnig ei basio.

Yn ôl y Prif Weinidog, byddai’n “anghyfrifol ofnadwy” i beidio cadw Trident. Ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu Trident yw arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru a’r SNP hefyd yn gwrthwynebu Trident ac mae’n debygol y bydd y Blaid Lafur wedi’i rhannu ar y mater.

Fe fydd cabinet yr wrthblaid yn galw ar ASau i ymatal o’r bleidlais ond mae ffigurau blaenllaw’r blaid, fel un o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, Owen Smith, a’r dirprwy arweinydd, Tom Watson, yn cefnogi’r llywodraeth.

Mae disgwyl y bydd y cynllun yn cael sêl bendith, gan olygu y bydd gan y Deyrnas Unedig arfau Trident hyd at y 2060au.

Rhybudd dros beidio â gwario

Mae disgwyl i Theresa May rybuddio bod y bygythiad niwclear “wedi cynyddu.”

“Mae’n amhosibl dweud yn bendant na fydd bygythiadau eithafol yn codi yn ystod y 30 neu 40 mlynedd nesaf i fygwth ein diogelwch a’n ffordd o fyw.”

Mae llefarydd yr wrthblaid ar faterion tramor, Emily Thornberry, a’r llefarydd ar faterion amddiffyn, Clive Lewis, wedi dweud bod y Ceidwadwyr yn cynnal y bleidlais i “rannu’r blaid (Lafur) ymhellach”, gan fod adnewyddu Trident wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor yn 2007.

 

Plaid Cymru yn erbyn

Mae Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud yn y gorffennol bod gwario arian ar y system yn “gwbl warthus” mewn cyfnod o gynni ariannol.

“Pan fo mwy o bobl nag erioed yn defnyddio banciau bwyd, pan fo’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn tyfu… mae hi’n gwbl warthus y bydd £100 biliwn a mwy yn cael ei wario ar arfau niwclear na ddylai unrhyw un fyth eu defnyddio,” meddai cyn siarad mewn rali yn erbyn y cynllun.

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud bod amcangyfrif y gost ddiweddaraf ar wario ar y pedair llong danfor i gludo’r arfau niwclear yn £31 biliwn dros 20 mlynedd, gyda £10 biliwn arall wrth gefn.