Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi galw am undod a phwyll ar ôl i dri phlismon gael eu saethu’n farw yn Louisiana gan ddyn arfog yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd tri o blismyn eraill eu hanafu yn Baton Rouge ac mae un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol. Dywedodd yr heddlu bod y dyn arfog wedi cael ei ladd ar safle’r ymosodiad mewn gorsaf betrol.
Mae’r digwyddiad wedi cynyddu’r tensiynau ar draws America, bythefnos ar ôl i ddyn du, Alton Sterling, 37, gael ei saethu’n farw gan yr heddlu gan arwain at brotestiadau ar draws y wlad.
Y diwrnod canlynol cafodd dyn du arall ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Minnesota.
Mae Barack Obama wedi galw ar bobl i beidio defnyddio geiriau a gweithredoedd ymfflamychol.
“Mae angen i ni bwyllo ac agor ein calonnau.. pob un ohonom ni.”
Mae’r dyn arfog wedi cael ei adnabod fel Gavin Long, 29, o Kansas City. Roedd Long yn ddyn du ac wedi gwasanaethu gyda’r morlu rhwng 2005 a 2010.
Mae’r awdurdodau yn ymchwilio i geisio darganfod a oedd yn gweithio ar ei ben ei hun neu wedi cael cymorth gan eraill.
Mae’r tri phlismon gafodd eu lladd yn Baton Rouge – Montrell Jackson, 32, Matthew Gerald, 41, a Brad Garafola, 45, – ymhlith wyth o swyddogion yr heddlu sydd wedi cael eu lladd yn ystod y trafferthion diweddaraf.