Mae Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, Owen Smith wedi lansio’i ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur drwy ddweud y bydd yn herio diffyg cydraddoldeb yn y gymdeithas.

Dywedodd yn ei etholaeth ym Mhontypridd y dylai’r mater fod wrth galon popeth y mae’r blaid yn ei wneud.

Ymrwymodd hefyd i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno er mwyn galluogi aelodau seneddol i atal y llywodraeth rhag mynd i ryfel os mai dyna sy’n cael ei benderfynu mewn pleidlais.

Er bod Smith wedi canmol dylanwad Jeremy Corbyn ar y blaid, dywedodd fod angen i’r Blaid Lafur ddychwelyd i fod yn fudiad “radical ond credadwy”.

Dywedodd ei bod yn “warth” fod y bwlch rhwng haenau’r gymdeithas yn tyfu a bod rhaid i’r “Blaid Lafur, ein plaid ni, frwydro i leihau’r bwlch hwnnw”.

Ychwanegodd y byddai’n mynd ati fel arweinydd i ail-ysgrifennu cyfansoddiad y blaid.

“Rhaid i bob polisi Llafur gael ei fesur yn erbyn y meincnod hwnnw – a yw’n mynd i leihau anghydraddoldeb o ran cyfoeth, grym, deilliannau a chyfleoedd…?

“Ac os nad yw’n mynd i leihau’r anghydraddoldebau hynny, yna ni ddylwn ni yn y Blaid Lafur ei wneud e.”

Wrth gyfeirio at ddarpar Gabinet cysgodol, dywedodd y byddai’n dewis gweinidogion a fyddai’n gallu cydweithio ag e fel arweinydd.

“Rwy’n credu bod hyn yn ffordd bwysig o ailgysylltu ein plaid.”

Wrth gyhoeddi pecyn adeiladu gwerth £200 biliwn, dywedodd nad yw “geiriau’n ddigon”.

Ychwanegodd hefyd y byddai’n ail-gyflwyno’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, yr adran a gafodd ei diddymu’r wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog newydd, Theresa May.

Wrth gyfeirio at adroddiad Chilcot i’r rhyfel yn Irac, dywedodd fod “Irac yn gamgymeriad”, a bod Corbyn yn “hollol gywir am hynny”.

Ond fe ddywedodd fod rhaid “dweud beth rydyn ni’n mynd i’w wneud amdano fe”.

Ychwanegodd fod angen “rhoi cig ar esgyrn y sloganau”.

A mynnodd na fyddai’r Blaid Lafur yn hollti yn y pen draw, waeth beth fyddai canlyniad y ras am yr arweinyddiaeth.

“Ni all ddigwyd, ni fydd yn digwydd.”