“Geiriau gwag” sy’n diffinio Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, Owen Smith, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards.

Roedd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ymateb wrth i Owen Smith lansio’i ymgyrch i herio Jeremy Corbyn.

Mewn datganiad, dywedodd Jonathan Edwards fod Llafur “ar chwâl” ac yng nghanol “ymgyrch gyhoeddus iawn o hunan-ddinistr”.

Yn y cyd-destun hwnnw, meddai, “mae’n addas mai’r unigolyn diweddaraf i geisio cael gwared ar yr arweinydd yw Owen Smith – yr un gŵr y gellir dibynnu arno i roi’r blaid cyn y wlad”.

Ychwanegodd fod Smith yn “arbenigwr mewn beirniadu ei gynulleidfa”.

Dywedodd ei fod yn “aelod o’r CND un diwrnod, a dyn sy’n barod “i ddinistrio miliynau o bobol” gydag arfau niwclear y diwrnod wedyn”.

Tynnodd sylw hefyd at ei farn am lymder, gan alw Llafur ‘un genedl’ yn “ddau wynebog”.

Yr unig gysondeb, meddai, yw fod Owen Smith yn pleidleisio’n “gyson yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru”.