Mae Aelod Seneddol Wallasey, Angela Eagle wedi dweud ei bod hi’n “ddynes hoyw, dosbarth gweithiol o ogledd Lloegr ac yn falch o bwy ydw i”.
Gwnaeth ei sylwadau mewn erthygl yn yr Observer ddydd Sul wrth iddi baratoi i herio Jeremy Corbyn ac Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Dywedodd Eagle ei bod hi wedi cyrraedd lle mae hi “oherwydd llwyddiannau llywodraethau Llafur blaenorol wrth roi cyfleoedd i bawb”.
Rhaid i Lafur “estyn allan i bawb”, meddai, a “pherswadio” pleidleiswyr ansicr i gefnogi’r blaid.
“Rhaid i’r broses hon o barch a dealltwriaeth cilyddol ddechrau o fewn y Blaid Lafur – ac o fewn y ras hon am yr arweinyddiaeth”.
Wrth gyfeirio at “fethiant” Jeremy Corbyn i arwain y blaid mewn modd effeithiol, dywedodd Angela Eagle: “Prin yw’r polisïau a ddaeth gan Jeremy.
“O ran Trident, er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o bobol yn gwybod ei fod e yn ei erbyn. Ond cafodd ei arolwg o Trident ei ohirio oherwydd Brexit. Ac yna Brexit ei hun.
“Roedd Jeremy fel pe bai’n meddwl drwy fynd ar y teledu a dweud ei fod e saith allan o 10 o blaid aros yn Ewrop y byddai hyn yn apelio at bobol nad oedden nhw eu hunain yn sicr.
“Yn hytrach, fe roddodd ganiatâd iddyn nhw bleidleisio i adael.
“Fe ddylai fod wedi cyflwyno’r achos dros aros yn Ewrop, gan ddadlau’n angerddol o’i blaid. Wnaeth e ddim.”
Rhinweddau Angela Eagle
Wrth amlinellu ar raglen Andrew Marr y BBC pam ddylai hi gael ei hethol yn arweinydd y Blaid Lafur, dywedodd Angela Eagle ei bod hi o “stoc dosbarth gweithiol”, ac yn ferch i ddynes “na chafodd y cyfle i fynd i’r brifysgol”.
Dywedodd mai ei gorchwyl yw sicrhau bod plant dosbarth gweithiol yn cael y “cyfle i serennu”.