Mae ymchwiliad ar y gweill i farwolaeth dyn a gwympodd oddi ar glogwyn ym Mro Morgannwg fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Southerndown toc ar ôl 10 o’r gloch.

Does yna ddim amgylchiadau amheus.

Cafodd yr heddlu, yr ambiwlans, Gwylwyr y Glannau a’r gwasanaeth tân eu galw i’r digwyddiad, ond doedden nhw ddim wedi gallu ei achub.