"Neb yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf", medd Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru’n gofidio ei bod yn cael ei chau allan o drafodaethau gyda Chomisiwn Ewrop ynghylch sut caiff arian Ewropeaidd ei wario yng Nghymru.
Cafodd cyfarfod ei gynnal ym Mrwsel, ond doedd neb o’r Comisiwn yn bresennol, meddai’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y llywodraeth wedi cyrraedd croesffordd yn y trafodaethau.
Mae Drakeford wedi ysgrifennu llythyr at Gomisiynydd Ewrop yn mynegi anfodlonrwydd Llywodraeth Cymru gyda chanlyniad y refferendwm fis diwethaf.
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Does dim amheuaeth fod y comisiwn wedi penderfynu nad yw bellach yn mynd i chwarae rhan yn y cyfarfodydd hyn o hyn ymlaen.
“Rwy’n credu ein bod ni mewn cyfnod ar hyn o bryd lle mae’r ddwy ochr yn cylchdroi bron o gwmpas ei gilydd.”
Ychwanegodd fod y dyfodol yn aneglur ar hyn o bryd tra bod y penderfyniad i weithredu cymal 5o yn cael ei wneud.
“Mae gyda ni swyddfa ym Mrwsel beth bynnag. Yr hyn rwy wedi ceisio’i wneud yw cryfhau’r swyddfa er mwyn sicrhau bod gyda ni’r bobol gywir yno i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau arfaethedig yn y dyfodol gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Rhaid i ni sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed yn groch ac yn eglur.
“Y peth rhyfedd yw fod hyn yn ymwneud ag arian Ewrop ac mae’r Comisiwn yn dweud nad ydyn nhw am fod ynghlwm wrth fonitro sut caiff yr arian hwnnw ei wario.
“Mae’n anodd i ni, ond mae’n ymddangos fel safbwynt rhyfedd ar ran y Comisiwn ar hyn o bryd.”