Mae Owen Smith wedi dweud y byddai’n pleidleisio o blaid adnewyddu rhaglen niwclear Trident.

Aelod Seneddol Llafur Pontypridd yw un o’r ddau ymgeisydd, ynghyd ag Angela Eagle, sydd wedi cyflwyno’i enw i herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Caiff ei ymgyrch ei lansio yn ei etholaeth ym Mhontypridd ddydd Sul.

Ar raglen Andrew Marr y BBC fore Sul, dywedodd Smith fod y byd yn “fwy ansefydlog dros y blynyddoedd diwethaf”, ond ei fod am weld “byd heb arfau niwclear o gwbl”.

Ond fe ddywedodd fod angen cadw at gytundeb Trident o dan yr amgylchiadau presennol.

“Fe fu’n amser hir ers i fi sylweddoli bod angen i ni ei gadw tan ein bod ni’n gallu ei ddefnyddio fel dull o fargeinio i gael pawb i waredu ar eu harfau niwclear.”

Beirniadu Jeremy Corbyn

Mae Jeremy Corbyn wedi dweud na fyddai’n fodlon pwyso’r ‘botwm coch’ i ddefnyddio arfau niwclear pe bai Prydain dan fygythiad.

Cafodd y safbwynt hwnnw ei feirniadu gan Smith.

Dywedodd: “Rhaid i chi fod yn barod i ddweud ‘Ie’. Mae hynny’n hollol briodol.

“Roedd yn gamgymeriad ar ran Jeremy i ddweud na fyddai [yn pwyso’r botwm coch].

“Rwy’n deall bod meddwl am hyn yn ofnadwy i unrhyw un. Dw i ddim am gael arfau niwclear.

“Rwy am waredu arfau niwclear o’n gwlad ni a ledled y byd.”

Ond dywedodd na fyddai Prydain yn debygol o ddarbwyllo gwledydd eraill y byd id dad-arfogi ac felly bod angen cadw at Trident am y tro.

“Rhaid i ni gadw at yr hyn sydd gyda ni. Rhaid i ni ei adnewyddu os mai dyna yw cyngor y gwasanaeth diogelwch.

“Mae’n ofnadwy bod rhaid i ni wneud hynny, ond dyna’r gwir amdani.”

Credyd treth

Cyfaddefodd Owen Smith fod ymatal rhag pleidleisio yn dilyn y ddadl am y credyd treth yn “gamgymeriad”, a’i fod yn “difaru” gwneud hynny.

“Fe wnes i ddadlau yn y Cabinet Cysgodol, fel y bydd Angela ac eraill yn tystio, na ddylen ni fod yn ymatal ynghylch hyn ac ro’n i’n rhan o ymgyrch Andy Burnham, gan ddweud wrth Andy y dylai fod yn ymddiswyddo ynghylch y mater.

“Y gwir yw fod [ymatal] yn gamgymeriad ac ro’n i’n falch pan ddes i’n ysgrifennydd gwaith a phensiynau cysgodol, fy mod i wedi arwain yr ymgyrch. Fe wnes i newid ein safbwynt.

“Fe wnaethon ni wrthwynebu’r Bil Lles yn gyfangwbl. Fe wnaethon ni ei wrthwynebu fesul llinell.”

Dywedodd hefyd fod angen “gwyrdroi” y system drethi a bod y Blaid Lafur wedi bod yn “rhy swil” wrth fynd i’r afael â’r drefn.

Dywedodd yr hoffai ail-gyflwyno’r lefel uchaf o 50 ceiniog ar gyfer haen ucha’r gymdeithas.

Angela Eagle

Wrth drafod ei wrthwynebydd, Angela Eagle yn y ras i ddisodli Jeremy Corbyn, dywedodd Owen Smith: “Byddai Angela yn arweinydd gwych i’r Blaid Lafur. Mae hi wedi bod yn arweinydd ac yn arloeswr ers amser hir yn y blaid a phe bai Angela yn arweinydd, byddwn i’n gwasanaethu gyda chryn ostyngeiddrwydd a pharch.”

Dywedodd ei fod e’n “rhannu safbwyntiau sosialaidd” ei wrthwynebydd.