Mae 18 o bobol, gan gynnwys plentyn, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y gyflafan yn Nice nos Iau.
Dywedodd yr awdurdodau fod 85 o bobol yn yr ysbyty o hyd.
Mae llywodraeth Ffrainc yn annog unrhyw un oedd yn rhan o’r gyflafan i gael eu cwnsela.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan, ac mae nifer o bobol yn parhau yn y ddalfa.