Mae’r ffilm Bastille Day, sy’n adrodd hanes cynllwyn i fomio Paris, wedi cael ei dynnu’n ôl o sinemâu yn Ffrainc yn dilyn y gyflafan yn Nice nos Iau.

Cafodd y ffilm, sy’n serennu Idris Elba, ei dangos am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Mae lle i gredu bod y cwmni cynhyrchu Studiocanal wedi penderfynu peidio â hysbysebu’r ffilm ddydd Gwener, ac fe benderfynon nhw ddydd Sadwrn na fyddai’r ffilm yn cael ei dangos o gwbl.

Roedd nifer o sinemâu wedi parhau i ddangos y ffilm ddydd Gwener wedi’r gyflafan a laddodd o leiaf 84 o bobol.

Mae cyfnod o alaru eisoes wedi dechrau yn Ffrainc, ac mae cyfnod newydd o argyfwng hefyd wedi dechrau ar ôl i’r Arlywydd Francois Hollande ei ymestyn.