Fe allai diweithdra gynyddu, fe allai’r economi arafu ac fe allai’r farchnad dai ddioddef yn sgîl Brexit.

Dyna rybudd prif economegydd Banc Lloegr fu’n siarad ym Mhort Talbot heddiw.

Dywedodd Andy Haldane y gallai pobol fod yn gwario llai hefyd.

“Mae’n debygol y bydd y slac yn economi Prydain yn cynyddu’n raddol yn y cyfnod sydd i ddod, gyda’r posibilrwydd o achosi cynnydd mewn diweithdra,” meddai.

“Y prif reswm am yr arafwch tebygol yna [yn yr economi] yw ansicrwydd.

“A chan fod ansicrwydd wedi cynyddu’n gyflym, mae’n bosib mai ‘pwyll piau hi’ fydd agwedd cwmnïau a theuluoedd, fel y bu hi am y rhan fwyaf o’r cyfnod ers y creisus.”

Er iddo ragweld trafferthion yn y farchnad dai hefyd, wnaeth  Andy Haldane ddim rhagweld creisus ariannol ar raddfa fawr.