Jo Stevens
Mae un o gefnogwyr selocaf Jeremy Corbyn wedi troi ei chefn arno a galw ar aelodau’r Blaid Lafur i gefnogi Owen Smith i fod yn arweinydd.

Mae Aelod Seneddol Canol Caerdydd, Jo Stevens, wedi penderfynu cefnogi Owen Smith, AS Pontypridd.

Roedd Jo Stevens wedi bod yn gefnogol i Jeremy Corbyn yn y frwydr i arwain Llafur, ond bellach mae wedi e-bostio aelodau Llafur i ddweud ei bod yn ffafrio Owen Smith.

Meddai yn yr e-bost: “Yn ystod y pythefnos diwethaf daeth yn boenus o amlwg ein bod wedi methu gwneud y pethau syml o ddydd i ddydd y dylai’r wrthblaid swyddogol eu gwneud yn y Senedd.

“Fedrwn ni ddim cyflwyno ein hunain fel plaid sy’n barod i lywodraethu heb arweiniad a thîm arweinyddol sy’n ennyn parch a chefnogaeth nid yn unig yr aelodau… ond pleidleiswyr Llafur a phleidleiswyr posib Llafur.”

Cyn hyn, pan ddaeth Jeremy Corbyn dan bwysau am beidio gwneud digon i atal Brexit, roedd Jo Stevens wedi e-bostio aelodau i bwysleisio’r angen am “sefydlogrwydd” ac na fyddai yn cefnogi cynnig o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn.

Mae Andrea Eagle ac Owen Smith yn ei herio am yr hawl i fod yn Arweinydd Llafur.