Nathan Gill Llun: Ukip
Mae arweinydd Ukip yng Nghymru ac un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd (ASE) y blaid wedi cyhoeddi eu hymgyrch i olynu Nigel Farage fel arweinydd.
Mewn araith ar ddyfodol Ukip, fe wnaeth Steven Woolfe gyhoeddi ei fod yn ceisio am arweinyddiaeth y blaid, gyda Nathan Gill, yn mynd am y rôl o ddirprwy arweinydd.
Mae Nathan Gill yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru a bellach yn byw yn Llangefni, Ynys Môn.
Mae gan Steven Woolfe gysylltiadau â Chymru hefyd, gyda gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth.
Mae’r bargyfreithiwr ar hyn o bryd yn ASE dros Ogledd Orllewin Lloegr.
“Cryfhau Ukip”
Yn ei araith wrth lansio ei ymgyrch am arweinydd Ukip, dywedodd Steven Woolfe ei fod am “ehangu ar lwyddiant Nigel (Farage)” ac am “gryfhau lle Ukip fel grym pwerus” ym myd gwleidyddol Prydain.
Apeliodd ar “hen bleidleiswyr” Llafur, sy’n teimlo eu bod wedi cael eu “siomi” gan y blaid, ac ar garfan o bleidleiswyr Ceidwadol hefyd, gan ddweud mai Ukip yw “eu cartref newydd” bellach.
Soniodd ychydig am fewnfudo gan ddweud y byddai’n trawsnewid y system i fod yn un ar sail “teilyngdod” mewnfudwyr yn hytrach nag ar sail “hil neu grefydd.”
Roedd yn grediniol hefyd y byddai Ukip yn ennill “llawer o seddi yn yr etholiad cyffredinol.”
Ymddiswyddiad Farage
Fe gyhoeddodd Nigel Farage ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd Ukip ar ddechrau’r mis, gan ddweud ei fod am gael ei fywyd “yn ôl.”
Mae Paul Nuttall, dirprwy arweinydd Ukip, hefyd wedi dweud ei fod am gamu o’r neilltu.