Mark Drakeford (Llun: Flickr Cynulliad)
Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i drafod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar eu gwledydd.

Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros gyllid, Mark Drakeford, yn cynnal trafodaethau ag Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay ac Ysgrifennydd Cyllid Gogledd Iwerddon, Mairtin O Muilleoir.

Mae disgwyl iddyn nhw drafod pryderon ynghylch effaith Brexit ar gyllid cyhoeddus a ffynonellau cyllido’r dyfodol.

‘Gweithio gyda’i gilydd’

Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn “bwysicach nag erioed” i’r gwledydd datganoledig weithio gyda’i gilydd.

Dywedodd y byddant yn trafod “sut y gallwn gydweithio i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU a cheisio sicrhad i’n gweinyddiaethau datganoledig.”

“Yn sgil canlyniad y refferendwm mae goblygiadau amlwg i’n gwledydd ac i’n cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyllideb Cymru,” meddai.

Heriau

Cyn y cyfarfod, pwysleisiodd Derek Mackay o Senedd yr Alban ei fod yn credu’n gryf fod buddiannau’r Alban ar eu hennill o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Yn y cyfnod ansefydlog hwn, mae’n bwysig fod y tair gweinyddiaeth ddatganoledig yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, ac rwy’n benderfynol o barhau i archwilio’r holl opsiynau i ddiogelu buddiannau’r Alban a’n lle yn Ewrop,” meddai.

“Nid oes neb yn glir pa effaith fydd gan Brexit ar gyllidebau Llywodraeth y DU, ac rydym eisoes yn gweld Llywodraeth y DU yn awgrymu newidiadau i’w cynlluniau gwario. Mae’n amlwg fod materion sylweddol a heriau o’n blaenau ni,” ychwanegodd.

Dywedodd Mairtin O Muilleoir, Ysgrifennydd Cyllid Gogledd Iwerddon, ei fod yn awyddus i glywed sut mae’r refferendwm wedi effeithio ar yr Alban a Chymru.

Er bod mwyafrif o bobl yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pleidleisiodd 52.5% o bobl Cymru i adael yn ystod y refferendwm.