Llun: PA
Mae’r rhan fwyaf o bobol erbyn hyn yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf ar Gymru, y cyntaf o’i fath ers canlyniadau’r refferendwm.

O’r sampl o 1,010 o oedolion ledled y wlad, roedd 46% o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm arall, 41% o blaid gadael, 8% ddim am bleidleisio a 5% ddim yn gwybod.

Roedd pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin.  Fe wnaeth 52.5% o bobl Cymru bleidleisio i adael, a 47.5% yn pleidleisio i aros, sy’n golygu bod 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o blaid gadael.

Wrth dynnu’r rhai oedd heb benderfynu neu fyddai ddim yn pleidleisio allan o’r het, byddai’r bleidlais yn 53% o blaid aros yn Ewrop, gyda 47% o blaid gadael.

Wrth holi’r sampl o bobol dros ba ochr y gwnaethon nhw bleidleisio ar 23 Mehefin, roedd 53% wedi mynd am y bleidlais Brexit, gyda 47% o blaid aros.

“Does dim newid mawr wedi bod,” meddai’r Athro Roger Scully o’r arolwg a gafodd ei gynnal ar y cyd rhwng YouGov, ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Ond yr hyn sydd wedi newid, meddai, yw bod mwy o gefnogaeth i’r syniad o’r Deyrnas Unedig yn aros yn yr UE – tua chanran o 6% yn y cyfeiriad hwn ers y refferendwm.

Mwy yn cefnogi annibyniaeth

Yn ôl yr arolwg, mae cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru wedi cynyddu hefyd, ond bod hynny’n dibynnu ar ba fath o gwestiwn sy’n cael ei ofyn.

Pan ofynnwyd a fyddai’r bobol yn pleidleisio dros annibyniaeth, pe bai’r DU wedi gadael Ewrop ond bod Cymru’n gallu aros yn rhan ohoni os bydd yn dod yn annibynnol, roedd 28% yn cefnogi’r syniad, 53% yn gwrthwynebu a 20% ddim yn gwybod neu ddim am bleidleisio.

Roedd y gefnogaeth i Gymru annibynnol yn disgyn pan gafodd y cwestiwn, ‘os byddai refferendwm fory ar Gymru’n dod yn wlad annibynnol a dyma oedd y cwestiwn, sut byddech yn pleidleisio? A ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol?’ ei ofyn.

15% oedd yn cefnogi annibyniaeth y tro hwn, gyda 65% yn erbyn ac 20% eto ddim yn gwybod neu ddim am bleidleisio.

Roedd y gefnogaeth yn codi ychydig pe bai’r Alban yn dewis gadael, ond dim llawer, gyda 19% am gael annibyniaeth, 61% yn erbyn, a 21% ddim yn gwybod neu ddim am bleidleisio.

“Y neges yn gyffredinol yw tra gallai Brexit ail-agor y drafodaeth ar annibyniaeth i Gymru, does ‘na ddim llawer o arwyddion y byddai pleidlais i adael yn refferendwm yr UE yn arwain at bleidlais i adael mewn refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o’r DU,” meddai Roger Scully.

Plaid Cymru ar ei fyny

Ond mae ‘na newyddion calonogol i gefnogwyr Plaid Cymru hefyd, gyda’r arolwg yn dangos bod cefnogaeth i’r blaid wedi cynyddu i’w lefelau uchaf erioed.

Newyddion drwg sydd i Lafur, wrth i’w chefnogaeth ddisgyn i’w lefel isaf ar gyfer y blaid yn San Steffan a’r Cynulliad ers cyn etholiad cyffredinol 2010.

Cafodd yr arolwg ei gynnal yn ystod y cyfnod pan gyhoeddodd David Cameron y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog, ac wrth i dros hanner o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn adael.

Dyma oedd y canlyniadau ar gyfer San Steffan:

Llafur 34% (-5)
Ceidwadwyr 23% (+1)
Plaid Cymru 16% (+2)
UKIP 16% (-2)
Democratiaid Rhyddfrydol 8% (+2)
Eraill 3% (+1)

A’r Cynulliad (pleidlais etholaeth):

Llafur 32% (-2)
Plaid Cymru 23% (dim newid)
Ceidwadwyr 19% (+1)
UKIP 16% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol 7% (dim newid)
Eraill 3% (dim newid)

Pleidlais ranbarthol yn y Cynulliad

Llafur 29% (-3)
Plaid Cymru 24% (+3)
Ceidwadwyr 18% (dim newid)
UKIP 15% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol 6% (dim newid)
Eraill 8% (+10)