Thomas Sloman Llun: Heddlu'r De
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw cyn-filwr 27 oed a fu farw’n sydyn yn dilyn digwyddiad yn Y Barri yn ystod oriau man fore Sadwrn.

Cafwyd hyd i Thomas Julian Sloman yn Stryd Broad yn y dref ond er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn fuan wedyn.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “fab, tad a chariad, brawd, ŵyr, ewythr a nai cariadus.”

Roedd wedi bod yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig ac wedi gwasanaethu yn Afghanistan.

Roedd wedi gadael y fyddin yn ddiweddar “ac yn edrych ymlaen at y cyfnod nesaf yn ei fywyd,” meddai ei deulu.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r lon y tu ôl i Stryd Broad tua 4yb fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod “digwyddiad” wedi bod yno.

Dywed yr heddlu bod marwolaeth Thomas Sloman yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd ac maen nhw’n aros am ganlyniadau profion pellach i geisio darganfod beth oedd achos ei farwolaeth.

Cafodd dyn 42 oed ei arestio wedi’r digwyddiad ac mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Nid oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn dyn 29 oed a gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad.

Mae teulu Thomas Sloman yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu 01656 655555 gan nodi’r cyfeirnod  246455, os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud,  neu Taclo’r Taclau’n anhysbys ar 0800 555 111.