Agwedd “bragmataidd” sydd gan fusnesau Cymru at benderfyniad pobol Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Yn ei golofn yn y Sunday Times, dywedodd Cairns, oedd wedi ymgyrchu i aros yn Ewrop, fod y canlyniad yn “sioc seismig”.
Ond fe dydwedodd y byddai’r gymuned fusnes yng Nghymru’n ymateb i’r canlyniad am fod “newid yn yn golygu cyfleoedd” i entrepreneuriaid.
Dywedodd fod y Sefydliad Cyfarwyddwyr a’r CBI yng Nghymru eisoes yn ystyried sut y bydd rhaid iddyn nhw ymateb i’r dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd hefyd fod prifysgolion yn ystyried sut y bydd rhaid iddyn nhw addasu i’r dyfodol er mwyn cynnal diddordeb myfyrwyr.
Ond doed a ddêl, dywedodd Cairns y byddai’n “cynnig arweiniad positif ac optimistaidd”, ac fe ddywedodd fod Cymru “ar agor i fasnachu”.
“Roedd hi hefyd yn glir o’m cyfarfodydd yr wythnos hon, o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus, fod yna gred nad yw mandad y refferendwm yn golygu y dylen ni ruthro nawr i weithredu Cymal 50 a dechrau tynnu Prydain allan o’r UE yn ffurfiol.
“Rhaid i ni edrych mewn modd hamddenol a chytbwys ar ba fath o gytundebau neu gydwethio masnachol sy’n gweithio orau i Brydain a Chymru.”
Dywedodd y byddai Cymru’n parhau i dderbyn nawdd am y tro a bod yr economi’n gryf ar ddechrau’r trafodaethau.
“Mae Cymru’n elwa o economi gynyddol ddeinamig a chyfradd waith sydd y tu hwnt i weddill y genedl.
“Ein her yw cynna y twf hwnnw wrth i ni baratoi i adael yr UE a pheidio â gadael i’r hyn sydd o’n blaenau ein taflu ni oddi ar ein hechel.”
Ond wrth gyfeirio at y cecru a’r achosion cynyddol o drais a hiliaeth yn yr wythnosau ers y refferendwm, dywedodd Cairns mai “digon yw digon”.
“Mae’r refferendwm wedi arwain at ganlyniad, does dim modd mynd yn ôl ato a rhaid i ni gadw ato fe.
“Yr her yw gwneud i’r trefniadau newydd weithio i bobol Cymru, pa un a wnaethon nhw bleidleisio i aros neu adael, a chael y canlyniad gorau i Gymru.”