Angen dwyn Tony Blair i gyfri, yn ôl Alex Salmond
Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi gwrthod wfftio adroddiadau y gallai achos gael ei ddwyn yn erbyn y cyn-Brif Weinidog Tony Blair mewn perthynas â rhyfel Irac.

Mae lle i gredu y gallai McDonnell ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn alw am ddwyn achos yn erbyn Blair pan fydd adroddiad Chilcot yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Fe allai nifer o aelodau seneddol ddefnyddio hen gyfraith er mwyn dwyn achos.

Ond dywedodd McDonnell wrth raglen Murnaghan ar Sky News ei bod hi’n “bwysicach edrych ar y prosesau a arweiniodd at ryfel Irac” na dwyn achos yn erbyn Blair.

Ychwanegodd fod rhyfel Irac yn “gamgymeriad difrifol”.

Wrth drafod rôl Blair yn y penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac, ychwanegodd McDonnell: “Rwy am weld adroddiad Chilcot, ni all unrhyw un wneud sylw ar hyn tan i ni weld yr adroddiad ei hun ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad yn drylwyr. I fi, nid Tony Blair nac unigolion sy’n bwysig – y prosesau sy’n bwysig fel nad ydyn ni byth yn mynd i ganol y llanast trasig iawn hwn eto gyda’r fath golli bywydau.”

‘Troseddwr rhyfel’

Dywedodd cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond wrth Sky News fod angen dwyn Tony Blair i gyfri am y rhyfel.

“Mae’n ymddangos fel pe bai wedi drysu ynghylch pam fod Jeremy Corbyn yn credu ei fod e’n droseddwr rhyfel, pam nad yw pobol yn ei hoffi.

“Y rheswm yw fod 179 o Brydeinwyr wedi marw mewn rhyfel, 150,000 wedi marw ar unwaith oherwydd y gwrthdaro yn Irac, y Dwyrain Canol yn wenfflam, y byd yn wynebu argyfwng dirfodol ynghylch brawychiaeth – dyma rai o’r rhesymau pam efallai y dylai e ddeall pam nad yw pobol yn ei barchu’n fawr iawn.”