Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn bygwth hollti’r Ceidwadwyr wrth i’r blaid chwilio am arweinydd newydd, yn ôl un o’r ymgeiswyr, Stephen Crabb.
Galwodd cyn-Ysgrifennydd Cymru am derfyn ar gyfeirio at yr ymgeiswyr yn ôl y ffordd y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm.
Roedd Crabb a’r ffefryn ar gyfer yr arweinyddiaeth, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, wedi ymgyrchu i aros.
Dywedodd Stephen Crabb wrth raglen Peston on Sunday ar ITV: “Gorau po gyntaf yr awn ni’r tu hwnt i ddefnyddio label a phob dydd sy’n mynd heibio lle’r ydyn ni fel cydweithwyr yn defnyddio label fel ‘Aros’ neu ‘Gadael’, bydd y rhaniad o fewn y blaid yn mynd yn ddyfnach.
“Rwy’n dweud wrthoch chi, os ydyn ni’n galluogi’r ras am yr arweinyddiaeth i gael ei gweld drwy brism ‘Gadael’ neu ‘Aros’, rydyn ni mewn perygl o hollti’r blaid – credwch chi fi.”
Ychwanegodd Crabb fod yr holl Geidwadwyr wedi ymrwymo i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.