Mae dyn 80 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 9 o’r gloch.

Roedd y dyn yn gyrru fan Ford Transit ond doedd dim cerbyd arall yn y gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.