Fe ddaeth ymhell dros 300 o bobol o bob cwr o ogledd Cymru i rali ar Faes Caernarfon heddiw i ddangos eu gwrthwynebiad i ganlyniad y refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Ac, wrth i Dafydd Wigley, Meic Birtwistle, Ifor ap Glyn a Bryn Fôn annerch y dorf oedd wedi ymgynnull ar y Ffownten ger y gofadail, y brif alwad oedd honno am Gymru annibynnol o fewn Prydain ffederal.
“Mae Caerdydd, Gwynedd, Ceredigion, Gogledd Iwerddon, ynghyd â dinasoedd Lerpwl, Manceinion a Llundain wedi pleidleisio tros aros,” meddai Meic Birtwistle, “felly mae yna lawer o bobol yn credu fel ni. Mae yna lot o waith i’w wneud, ac mae’r ymgyrch yn parhau…”
Roedd nifer o bobol yn y dorf wedi dod mewn dillad coch, a nifer hefyd yn gwisgo baneri Cymru ac Ewrop fel clogynnau tros eu hysgwyddau, a nifer fawr o blant yno gyda’u rhieni ifanc.
“Mae’n amlwg nad ydi’r arweiniad yn dod o Gaerdydd,” meddai Bryn Fôn ar derfyn y rali, “a dydw i ddim isio byw yn Wengland… maen nhw wedi creu’r enw yna yn barod. Does yna ddim arweiniad gan Lafur na Phlaid Cymru… felly mae hi i fyny i ni. Ymlaen!”