Mae’r Frenhines wedi pwysleisio’r angen i arweinwyr gymryd amser i “feddwl yn dawel a myfyrio” er mwyn delio â byd sy’n “newid yn gyflym”.
Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod ei hanerchiad yn agoriad pumed sesiwn Senedd yr Alban yng Nghaeredin. Mae angen ymateb yn ddoeth i “gyfnod sy’n gynyddol gymhleth”, meddai Elizabeth II yn Holyrood.
Fe gynhaliwyd y seremoni gwta wythnos wedi’r refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain yn yr ndeb Ewropeaidd – a thra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio tros adael, roedd Yr Alban tros aros yn rhan o’r undeb.
“Wrth gwrs, rydan ni i gyd yn byw ac yn gweithio mewn byd sy’n gynyddol gymhleth ac yn gofyn llawer ganddon ni,” meddai’r Frenhines. “Mae digwyddiadau a datblygiadau yn ein taro’n gyflym iawn, ac mae angen gallu cadw’n pennau a gwneud y penderfyniadau gorau yn anodd weithiau.
“Fel y mae’r Senedd hon wedi’i ddangos yn llwyddiannus dros y blynyddoedd, un nodwedd o arweinyddiaeth mewn byd sy’n newid yn gyflym, ydi caniatau digon o gyfle i hel meddyliau a myfyrio’n dawel. Mae hynny’n ein galluogi i ystyried yn ddyfnach, a gweld pa gyfleoedd sy’n codi a sut mae gwneud y gorau ohonyn nhw.”