Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth, wedi i feic modur gael ei ddwyn o’r Coed Duon.

Fe ddigwyddodd y lladrad toc wedi 8 o’r gloch y bore ddydd Mawrth diwetha’, Mehefin 28. Dyna pryd y cafodd y beic ei riportio ar goll gan y perchennog.

Y tro diwetha’ i’r perchennog weld y Kawasaki Ninja 300 lliw gwyrdd llachar oedd tua 12.30yb ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth o hanes y beic modur, i gysylltu ar y rhif 101.