Mae miloedd o bobol wedi dod ynghyd yng nghanol dinas Llundain er mwyn protestio yn erbyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd nifer fawr o’r protestwyr yn gwisgo baner Ewrop fel clogynnau, ac yn cario placardiau a baneri yn datgan ‘Bremain’ (yn hytrach na Brexit) a ‘We Love EU’ wrth iddyn nhw grynhoi yn y strydoedd ger Park Lane ar gyfer y rali ‘March for Europe’.

Mae disgwyl i rhwng 20,000 a 40,000 o brotestwyr orymdeithio trwy Parliament Square ar eu taith trwy ganol Llundain.

Fe drefnwyd y cyfan trwy’r gwefannau cymdeithasol gan y digrifwr, Mark Thomas, fel modd iddo ymdopi â’i “ddicter, rhwystredigaeth a’r angen i wneud rhywbeth”.

“Mi fydden ni’n fodlon derbyn canlyniad y refferendwm pe bai’r bleidlais wedi’i chynnal ar gae gwastad,” meddai Mark Thomas. “Ond roedd yr ymgyrch yn llawn celwydd a gwybodaeth ffug, ac mae angen i bobol wneud rhywbeth gyda’u rhwystredigaeth.”