Mae adnodd newydd wedi’i greu gan asiantaeth hyfforddiant Gyrfa Cymru, gyda’r nod o helpu economi gogledd Cymru i ffynnu.
Mae’r adnodd Golwg ar Ogledd Cymru yn anelu at ddylanwadu ar benderfyniadau gyrfa pobol ifanc. Mae’n rhagweld y bydd gorsaf pŵer niwclear newydd Wylfa yn creu 8,500 o swyddi adeiladu a 1,000 o swyddi parhaol, gyda pharc Biomas Orthios yn creu 1,200 o gyfleoedd adeiladu pellach a 500 o swyddi parhaol erbyn 2018.
Gyda disgwyliadau fod miloedd o swyddi yn sector dwristiaeth yn cael eu creu yn ystod y pum i 10 mlynedd nesaf, ynghyd â bydd y carchar newydd, Carchar Berwyn, yn creu 1,000 o swyddi erbyn 2017.
Dywedodd Richard Spear, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae’r ystadegau yn Golwg ar Ogledd Cymru yn dangos bod y rhanbarth hwn yn bwysig i economi Cymru ac yn arwain y ffordd mewn sectorau twf allweddol.
“Mae datblygiadau newydd mewn ynni adnewyddadwy yn golygu bod cyfleoedd cyffrous yn cael eu creu drwy’r amser, fel peirianwyr tyrbinau gwynt, gweithredwyr gwaith ailgylchu, a pheirianwyr ynni adnewyddadwy.
“Bydd y carchar newydd – Carchar Berwyn – yn Wrecsam hefyd yn creu amrywiaeth eang o swyddi newydd, yn ogystal â’r glaw am weithwyr adeiladu medrus i gwblhau’r datblygiad.”
Uchelgais
Dywedodd Iwan Thomas o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Mae Golwg ar Ogledd Cymru yn dangos y cyfoeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru.
“Ein nod yw hyrwyddo twf economaidd a buddsoddiad gan fusnesau yn yr ardal, a thrwy weithio gyda Gyrfa Cymru i dynnu sylw at yr amrywiaeth o opsiynau gyrfa a’r cyflogwyr mwyaf yn y rhanbarth, rydym yn gobeithio y gallwn annog ceiswyr gwaith ifanc i aros yn yr ardal i edrych am waith ac ymchwilio i’r amrywiaeth o lwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt.”
Datblygiadau newydd
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Gyda datblygiadau newydd blaengar a swyddi newydd yn cael eu creu ledled Gogledd
Cymru, mae’n bwysig ein bod yn dangos i bobl ifanc bod yna ddyfodol disglair ar eu cyfer yng Ngogledd Cymru ac y gallant ennill cyflog da mewn nifer o sectorau gwahanol.
Ychwanegodd, “Drwy wneud hyn gallwn helpu i sicrhau bod economi Gogledd Cymru yn parhau i dyfu, a sicrhau bod gan y rhanbarth farchnad swyddi amrywiol a ffyniannus.”