Hal Robson-Kanu - un o goliau gorau Ewro 2016 i roi Cymru ar y blaen (Llun: Joe Giddens/Pa)
Cymru 3 Gwlad Belg 1
Mae Cymru trwodd i rowndiau cyn-derfynol pencampwriaeth fawr am y tro cynta’ erioed, yn Ewro 2016.
Ac fe lwyddon nhw i wneud hynny trwy guro’r tîm sy’n cael ei ystyried yn ail yn y byd.
Ar wahân i ddau gyfnod yn nechrau’r gêm a dechrau’r ail hanner, fe lwyddon nhw i chwarae’n well a sgorio mwy
Yn ôl y sylwebydd Gary Lineker, dyma un o’r perfformiadau gorau erioed yn hanes pêl-droed gwledydd Prydain.
Ac mae’r tîm wedi mynd y tu hwnt i dîm chwedlonol Cwpan y Byd yn 1958 gyda chwaraewyr llachar fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn gweithio mor galed â neb.
Yr hanner cynta’
Roedd hi’n edrych yn anodd yn y cyfnod cynnar, wrth i Wlad Belg ymosod yn gyflym; er i Gymru gael cyfle neu dda, y Belgiaid oedd yn pwyso fwya’.
Ar ôl chwech munud, fe gawson nhw dri chyfle un ar ôl y llall, ond fe lwyddodd y golwr Wayne Hennessey a dau o’r amddiffynwyr i gadw’r bêl allan.
Fe ddaeth y gôl i Wlad Belg ar ôl 12 munud, ar ôl pas wael gan Allen yng nghanol y cae. Fe gafodd Nainggalan ormod o le y tu allan i’r bocs ac fe drawodd daran i’r gornel ucha’.
Fe drawodd Cymru’n ôl ac fe ddaeth y cefnwr Neil Taylor yn agos at sgorio am yr ail dro o fewn pum mlynedd cyn i’r capten Ashley Williams gael lle o gic gornel a phenio i’r gornel isa’.
Roedd hi’n gymharol gyfartal am weddill yr hanner ond roedd chwaraewyr gorau Gwlad Belg, De Bruyne a Hazard, wedi diflannu a Chymru’n dechrau bygwth.
Yr ail hanner
Fe agorodd Gwlad Belg yr ail hanner gyda phenderfyniad, yn gyflym eto ac roedd Fellaini wedi dod ymlaen i geisio amddiffyn corneli, lle’r oedd Cymru’n acosi helynt.
Ond fe newidiodd y gêm ar ôl 54 munud gyda phêl gan Gareth Bale o hanner ffordd yn dod o hyd i rediad gwych gan Aaron Ramsey i lawr y dde; fe groesodd a gyda throiad Cruyff, fe gurodd Hal Robson-Kanu dri amddiffynnwr a sgorio yn y gornel.
Roedd Gwlad Belg yn bygwth ac yn ceisio cynyddu’r pwysau ac fe gaodd Fellaini un cyfle da gyda’i ben ond, ar y cyfan, roedd Cymru’n dal eu tir ac roedd posibilrwydd o dorri.
Fe ddigwyddodd hynny ar ôl 85 munud pan groesodd Chris Gunter o’r dde a Sam Vokes, a oedd wedi dod ymlaen yn lle Robson-Kanu, yn codi ar ymyl y blwch chwech a phenio i’r gornel bella’.
Daeth Gwlad Belg ddim yn wirioneddol agos wedyn ac fe lwyddodd Cymru i ennill yn gyfforddus.
Yr un broblem fawr yw fod Aaron Ramsey a Ben Davies wedi cael cardiau melyn a fydd yn eu cadw allan o’r gêm gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal.
Be ddywedon nhw
“R’yn ni yma i gystadlu. R’yn ni’n teimlo bod gyda ni rywbeth i’w gynnig.Mae’r chwaraewyr yn dal i fynd heibio i’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni o’r blaen. Os cewch chi’r gorau o’ch chwaraewyr gorau fe gewch y gorau o’ch tîm.” – Chris Coleman, y rheolwr.
“Roedd rhaid i ni ddangos cryfder cymeriad anhygoel. Roedd yna ddwy gôl anhygoel gan y ddau ohonyn nhw (Robson-Kanu a Vokes).” – Ashley Williams, y capten.