Cameron Comey - cronfa wedi'i sefydlu i godi arian at rybuddio am beryglon afonydd (Llun trwy law Heddlu Dyfed Powys_
Mae crwner wedi rhybuddio am beryglon chwarae ger afonydd yn dilyn marwolaeth bachgen ysgol.
Syrthiodd Cameron James Comey, 11, i mewn i Afon Tywi ger ei gartref yng Nghaerfyrddin yn ystod hanner tymor mis Chwefror y llynedd.
Clywodd Llys y Crwner Sir Benfro fod y bachgen wedi bod allan yn chwarae gyda’i frawd iau pan syrthioddi mewn i’r afon oedd wedi chwyddo oherwydd glaw trwm.
Er gwaetha’ ymgyrch chwilio helaeth a barodd fisoedd, does neb wedi dod o hyd i’r corff.
Sefydlu cronfa
Doedd rhieni Cameron Comey ddim yn y gwrandawiad heddiw ond clywodd y cwest bod cronfa er cof amdano wedi cael ei sefydlu er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch dŵr ac i godi arian ar gyfer y tîmau achub a fu’n helpu i chwilio amdano.
Ar ôl dod i’r casgliad bod Cameron Comey wedi marw o ganlyniad i ddamwain, dywedodd y Crwner Gareth Lewis: “Mae hwn yn achos ofnadwy sy’n tynnu sylw at beryglon chwarae ger afonydd ar ôl tywydd drwg.
“Mae teulu cariadus wedi cael ei difetha yn llwyr gan y digwyddiad hwn. Mae’n drist iawn.”