Mae pump o enwau yn y ras i fod yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol, ond fydd arweinydd amlyca’r ymgyrch Brexit, Boris Johnson, ddim yn eu plith.

Y gred yw fod papurau Rupert Murdoch wedi troi yn ei erbyn ac wedi perswadio’i gyfaill Michael Gove i sefyll gan olygu na allai Johnson ennill.

Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yw’r ffefryn bellach ar yr amod y gall i oresgyn y ffaith ei bod hi o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, un o’r ymgeiswyr llai tebygol yw cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crab bond fe fydd yn gobeithio dod trwy’r canol rhwng May a Gove.

Dyma’r pump:

  • Yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb
  • Y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox
  • Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove
  • YGweinidog Ynni Andrea Leadsom.
  • Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May

Pwy yw’r ymgeiswyr?

 
Stephen Crabb (Dominic Lipinski/PA Wire)
Stephen Crabb

 Un o’r “dosbarth gweithiol cyffredin” y cyfeiriodd atyn nhw yw’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau a chyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, AS Preseli Penfro.

Mae’n cystadlu mewn partneriaeth gyda’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid a’r ddau’n pwysleisio eu bod yn wahanol iawn i elît y Blaid Geidwadol.

Yn ystod refferendwm Ewrop, fe dynnodd Crabb sylw at ei fagwraeth mewn tŷ cyngor yng Hwlffordd, yn fab i deulu un rhiant ar ôl i’w fam gael ei cham-drin gan ei gŵr.

Yn ôl Crabb, fe ddylai arweinydd y Ceidwadwyr fod yn “rhywun sy’n deal maint y sefyllfa ry’n ni ynddi ac sydd â chynllun clir i gyflawni o ran disgwyliadau’r 17 miliwn o bobol wnaeth bleidleisio i ddod allan yr wythnos diwethaf”.


Liam Fox (Chatham House CCA2.0)
Liam Fox

Y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Dr Liam Fox, oedd un o’r ymgeiswyr pan gafodd David Cameron ei ethol yn 2005.

Ond fe ddaeth ei gyfnod yn y meinciau blaen i ben yn 2011 pan ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi cyflogi ei ffrind a’i was priodas Adam Werrity yn ymgynghorydd answyddogol.

Ef oedd un o’r prif lefarwyr tros Brexit, ac mae e wedi dweud ei fod yn gobeithio ennill cefnogaeth asgell dde’r blaid.


Michael Gove (o'i wefan)
Michael Gove

Roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn un o’r prif ymgyrchwyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae lle i gredu bod ei benderfyniad i sefyll wedi arwain at benderfyniad cyn-Faer Llundain Boris Johnson i beidio â chynnig.

Roedd Gove wedi dweud yn gyson nad oedd yn ei ystyried ei hun yn Brif Weinidog y dyfodol, a hyd at neithiwr rodd yn cefnogi Boris Johnson.

Heddiw fe ddywedodd ei fod e wedi dod i’r casgliad “na all Boris gynnig arweiniad nac adeiladu’r tîm ar gyfer y dasg sydd o’n blaenau”.

Dywedodd ei fod yn awyddus i weld “dadl agored a phositif am y llwybr y bydd y wlad yn ei chymryd nawr”.


Andrea Leadsom (Policy Exchange CCA2.0)
Andrea Leadsom

Un sy’n gobeithio manteisio ar ei rhan ganolog yn yr ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd yw’r Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom.

Wrth drydar ei bwriad i sefyll, dywedodd y cyn-fanciwr: “Gadewch i ni wneud y gorau o’r cyfleoedd Brexit!”

Er ei bod yn llai adnabyddus na’r lleill, mae ganddi brofiad ariannol ac fe gafodd glod yn ystod ymgyrch y refferendwm am drafod pwyllog.


Theresa May (o'i gwefan)
Theresa May

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, o blaid aros yn Ewrop ond wedi cadw’n dawel iawn yn ystod yr ymgyrch.

Bydd ei hymgyrch yn cael ei rheoli gan Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling, un o’r Brexitwyr amlwg ac ef fyddai’n debyg o arwain adran newydd y mae wedi addo’i chreu i ddelio gyda’r trafodaethau i adael yr Undeb.

Fe ddywedodd y byddai’n rhaid newid rhywfaint ar y drefn o ganiatáu symud rhydd rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Ac fe wnaeth ble ar ran pobol llai breintiedig gan ddweud “nad pawb yn San Steffan sy’n deall sut beth yw byw fel hyn ac mae angen dweud wrth rai nad gêm yw hi.”

Dywedodd na fyddai hi’n galw etholiad brys nac yn galw am Gyllideb newydd yn sgil canlyniad refferendwm Ewrop.

Y drefn

Fe fydd aelodau seneddol y Ceidwadwyr yn pleidleisio i ddechrau i dorri’r rhestr i ddau ar gyfer aelodau cyffredin y blaid – fe fydd y bleidlais gynta ddydd Mawrth nesa a’r ail un ddydd Iau, gydag un ymgeisydd yn colli bob tro.

Fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn nechrau mis Medi.