Ysbyty Plant Bryste
Mae rhieni plant a fu farw mewn uned gardioleg yn Ysbyty Plant Bryste wedi beirniadu adolygiad annibynnol i’r ysbyty.
Bu farw saith o blant ar Ward 32 yn 2012 a 2013 gan gynnwys Maisie Waters, wythnos oed, o Lyn Ebwy a fu farw ym mis Awst 2012 a Luke Jenkins, 7, o Gaerdydd a fu farw ym mis Ebrill 2012.
Mae’r adolygiad wedi canfod bod lefelau staffio annigonol wedi golygu bod y ward wedi bod dan straen gan roi bywydau pobl ifanc mewn perygl.
Mae’r adroddiad wedi gwneud 32 o argymhellion i’r bwrdd iechyd lleol, Gwasanaeth Iechyd (GIG) Lloegr a’r Adran Iechyd gan gynnwys y dylid cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau gofal dwys plant ac y dylai sgyrsiau â chlinigwyr gael eu cofnodi.
Adolygiad ‘gwael iawn’
Bu farw Luke Jenkins, 7 oed, o Gaerdydd yn dilyn llawdriniaeth ar y galon yn 2012.
Dywedodd ei dad, Stephen Jenkins, 33, o ardal Llaneirwg yn y brifddinas fod yr adolygiad yn un “gwael iawn”, a bod yr adroddiad unigol i farwolaeth Luke yn un “gwan iawn”.
Ychwanegodd ei fod wedi disgwyl y byddai’r rhywun yn cael eu dwyn i gyfrif am y methiannau yn sgil yr adroddiad.
Meddai Stephen Jenkins: “Bu farw Luke oherwydd hyn a chafodd yr adolygiad hwn ei gomisiynu oherwydd Luke. Yw e wedi bod yn wastraff amser a nhw’n dweud ‘gadewch i ni dicio’r blychau a symud ymlaen’?
“Rydym eisiau i’r lle fod yn fwy diogel i blant fynd yno ac nid i brofi’r hyn yr ydym ni wedi ei brofi. Roeddem yn gobeithio mai hyn fyddai’r diwedd ond mae’n ymddangos fod yn rhaid i ni barhau i frwydro.”
Camau cyfreithiol
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan y GIG yn Lloegr yn 2014 ac roedd yn cynnwys 237 o deuluoedd a oedd a phlant oedd wedi cael eu trin yn yr ysbyty.
Mae deg o’r teuluoedd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr ymddiriedolaeth, gan gynnwys saith teulu y bu i’w plant farw ar ôl triniaeth ar Ward 32 – prif ffocws yr adolygiad.
Meddai Cadeirydd yr adroddiad, Eleanor Grey QC, bod canlyniadau gofal yn yr ysbyty yn “debyg” i ganolfannau eraill sy’n gofalu am blant sydd â chlefyd ar y galon.
Fodd bynnag, ychwanegodd y bargyfreithiwr bod Ward 32, yn y cyfnod o 2010-2012, o dan straen.
Canfu’r adolygiad hefyd bod uwch-reolwyr yr ysbyty wedi methu ag ymateb i bryderon rhieni ac roeddent yn amddiffynnol ar ôl hysbysiad rhybudd a gyhoeddwyd yn 2012 yn dilyn arolygiad dirybudd Comisiwn Ansawdd Gofal.
Yn dilyn yr adolygiad, dywedodd GIG Lloegr y byddai newidiadau mawr yn y modd y mae gwasanaethau’r galon yn cael eu darparu ar draws y wlad yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.