Theresa May (Llun: Y Blaid Geidwadol)
Mae Theresa May wedi lansio ei hymgyrch i olynu David Cameron fel Prif Weinidog gydag addewid y gallai gynnig “arweinyddiaeth all uno ein plaid a’n gwlad.”

Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn ffefryn i ennill lle ar y papur pleidleisio ynghyd a Boris Johnson.

Ond fe fu tro annisgwyl y bore ma ar ôl i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, gyhoeddi ei fod am sefyll fel ymgeisydd.

Bydd aelodau’r blaid Geidwadol yn gorfod dewis eu harweinydd newydd allan o ddewis o ddau.

Mae Theresa May wedi ymosod ar ei phrif  wrthwynebydd tebygol gydag erthygl papur newydd lle’r oedd yn rhybuddio nad yw gwleidyddiaeth yn “gêm”.

‘Brexit yn golygu Brexit’

Ac mewn araith yn Llundain, meddai Theresa May na fyddai’n ceisio newid canlyniad y refferendwm gan ddweud fod “Brexit yn golygu Brexit”.

Ond ychwanegodd na fyddai’n dechrau ar y broses ddwy flynedd i adael yr UE nes bod cytundeb ar strategaeth y DU  yn y trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd. Ni fydd hynny’n digwydd cyn diwedd y flwyddyn hon yn ôl pob tebyg.

Dywedodd hefyd y byddai’n creu adran newydd o’r Llywodraeth, o dan arweiniad Gweinidog Cabinet a oedd wedi ymgyrchu dros adael y UE, i oruchwylio ymadawiad y DU o Ewrop.

Meddai hefyd na fyddai’n cyhoeddi cyllideb frys yn dilyn y bleidlais Brexit ac ni fyddai’n galw etholiad cyn 2020.

A dywedodd, petai hi’n Brif Weinidog, na fyddai’n tynnu Prydain allan o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol oherwydd nad oedd yn disgwyl y byddai ganddi fwyafrif seneddol.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi cyhoeddi bore ma na fydd yn sefyll fel ymgeisydd ac y bydd yn cefnogi Theresa May.