Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod wedi cael ei “ddychryn ac yn siomedig iawn” o’r cynnydd mewn tensiwn hiliol, a’r difrïo hiliol tuag at bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn sgil canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd y Prif Weinidog na fydd Cymru’n “derbyn unrhyw fath o hiliaeth” a bod angen “mynd i’r afael â’r ymddygiad annerbyniol hwn ar unwaith.”
Dywedodd bod gan Gymru hanes balch o groesawu pobl o bob cwr o’r byd, ac ni fydd hyn yn newid yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE.
Gwnaeth Carwyn Jones ei sylw cyn iddo gyfarfod ag aelodau o Gymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yn ogystal â phobl ifanc a theuluoedd sydd wedi derbyn cymorth gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe.
Yn y cyfamser mae Mudiad Meithrin wedi dweud eu bod yn ofidus am y dyfodol a’r hinsawdd bresennol sydd wedi gweld cynnydd mewn senoffobia a hiliaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
‘Siomedig iawn’
Meddai Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu bron i £500,000 i sefydlu Canolfan Cenedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb Cymru, a’u bod wedi ariannu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r broblem.
Awgrymodd ffigurau’r Arolwg Troseddu yng Nghymru a Lloegr a gyhoeddwyd y llynedd bod troseddau casineb wedi gostwng 28% rhwng 2008 a 2015 ac er gwaetha’r digwyddiadau diweddar, meddai Carwyn Jones y bydd yn “gwneud popeth o fewn fy ngallu” i helpu i uno pobl Cymru unwaith eto.
‘Uno pobl Cymru’
Meddai Carwyn Jones: “Er fy mod yn teimlo bod y difrïo hiliol y mae rhai pobl yn gorfod ei ddioddef yn warthus, rwyf hefyd wedi fy nghalonogi gan gefnogaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o gymunedau ethnig sy’n byw yng Nghymru.
“Roeddwn yn hynod falch o glywed am y nodyn o ddiolch a bostiwyd yn ddienw ar ddrws Cymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pob cymuned yn ymddwyn yn yr un modd.”
“Rydym wedi cydweithio â phartneriaid i greu cysylltiadau cymunedol cryf yng Nghymru, ac nid wyf am weld y gwaith da hwn yn cael ei chwalu. Ni ddylai neb ddioddef unrhyw fath o elyniaeth neu ragfarn, ac rwy’n annog dioddefwyr i gysylltu â’r heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i’w hysbysu o unrhyw ddigwyddiad.
“Mae ymfudwyr wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd Cymru, ac yn parhau i wneud hynny, ac rwyf am roi sicrwydd i wladolion tramor sy’n byw yma ein bod yn parhau i’w gwerthfawrogi fel aelodau o’n cymdeithas. Dyma fy neges yn glir – rydym yn dal i’ch croesawu chi yma yng Nghymru.”
‘Hyrwyddo goddefgarwch’
Meddai Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST): “Rydym yn croesawu neges y Prif Weinidog sy’n rhoi sicrwydd i’r cymunedau amrywiol sy’n byw yn Abertawe.
“Dyma’r amser i ni i gyd, fel unigolion, cymunedau ac arweinwyr gwleidyddol i ymdrechu mwy, ac mae angen inni hyrwyddo goddefgarwch a synnwyr er mwyn boddi unrhyw anoddefgarwch a rhagfarn.
“Mae angen inni hefyd sicrhau fod gan bawb y cyfle i ddysgu’r ffeithiau am ymfudo ac amrywiaeth, ac i werthfawrogi’r cyfraniad y mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn ei wneud i Gymru, yn hytrach na chredu’r storïau a’r celwyddau sydd yn anffodus yn bwydo hiliaeth, anoddefgarwch a chasineb.”
Mudiad Meithrin ‘yn ofidus’
Dywedodd y Mudiad Meithrin mewn datganiad eu bod yn siomedig gyda chanlyniad y refferendwm ac yn ofidus am y dyfodol a hinsawdd bresennol sydd wedi gweld cynnydd mewn senoffobia a hiliaeth.
Ond mae’r mudiad wedi datgan yn glir bod “croeso i bob plentyn a’u teuluoedd yng nghylchoedd Ti a Fi” a’u bod yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid a chymdogion ar draws gwledydd Ewrop i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i rannu profiadau fydd yn cyfoethogi eu gwaith.