Dros y mis diwethaf, fe wnaeth Gwasanaethau Ambiwlans lleol Cymru – heblaw am un – gyrraedd eu targedau dros ateb galwadau brys, mewn achosion sy’n bygwth bywyd, o fewn wyth munud, yn ol ffigurau Llywodraeth Cymru.

65% oedd y targed a Phowys oedd yr unig Fwrdd Iechyd yng Nghymru i beidio â chyrraedd y targed hwn gan gyrraedd  62.3%.

Y Bwrdd Iechyd a berfformiodd orau oedd Caerdydd a’r Fro gan ateb 82.9% o alwadau coch (sef rhai oedd yn bygwth bywyd) o fewn wyth munud.

Fe wnaeth Betsi Cadwaladr ateb 73.9% o alwadau o fewn yr amser targed, Hywel Dda – 68.8%, Abertawe Bro Morgannwg – 73.1%, Cwm Taf – 78% ac Aneurin Bevan – 78.1%.

Y cyfartaledd ar draws Cymru oedd 75.5% – dros 10% yn fwy na’r targed, a dros 4% yn fwy na’r ffigwr ym mis Ebrill.

Llai o alwadau coch

Bu llai o alwadau coch ers i fisoedd y gaeaf fynd heibio ac felly mae perfformiad y gwasanaeth wedi gwella, gyda dros 70% o alwadau brys difrifol yn cael eu hateb o fewn wyth munud ym mis Ebrill a mis Mai.

O ran galwadau dyddiol – sy’n cynnwys galwadau coch, oren a gwyrdd, bu cynnydd o 5.4% yn y nifer ers mis Ebrill.

Mae galwadau oren yn rhai difrifol ond sydd ddim yn bygwth bywyd rhywun yn uniongyrchol, a dyw galwadau gwyrdd ddim yn rhai brys. Does dim targedau amser i’r galwadau hyn.

Ysgrifennydd Iechyd wedi’i blesio

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhagori ar ei darged, am yr wythfed mis yn olynol, er gwaethaf y ffaith bod nifer y galwadau’n codi’n gyson,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon.

“Roedd hanner y rheini yr oedd angen arnyn nhw gael ymateb ar frys wedi cael yr ymateb hwnnw mewn llai na phum munud, ac roedd pob ardal yng Nghymru wedi gwella ar ei berfformiad ym mis Ebrill er gwaethaf y cynnydd yn y galwadau.

“Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wrth i fwy o bobl gael y sylw brys y mae ei angen arnyn nhw mor gyflym.”